Nid yw costau byw yn aros yn eu hunfan.
Iawn, yn dechnegol nid cwestiwn – ond pwynt allweddol yr un peth. Diolch i chwyddiant a chostau byw cynyddol, mae eich costau yn debygol o edrych yn fwy serth ymhen ychydig ddegawdau. Fel canllaw bras, ystyriwch gynnydd o 3% yn eich costau byw flwyddyn ar ôl blwyddyn.
A chofiwch, os yw eich cynilion ymddeoliad yn tyfu ar gyfradd arafach na chwyddiant, yna mae pŵer prynu eich arian yn crebachu ac nid yw’n tyfu.
Does byth amser gwell na’r presennol i droi meddwl yn weithred. Drwy roi eich cynlluniau ar waith nawr, gallwch ddechrau paratoi ar gyfer y math o flynyddoedd euraidd yr hoffech edrych ymlaen atynt.